Bydd £8.3 miliwn yn cael ei wario yn Abertawe, Caerffili ac Aberdâr, i greu cyfleusterau busnes newydd.

Bydd £4.5 miliwn yn cael ei fuddsoddi mewn cynllun yn Abertawe i ddarparu swyddfeydd i’r sector ddigidol, a bydd £2.5 yn mynd i gynllun yn Aberdâr i adeiladu 11 o unedau busnes.

Yng Nghaerffili bydd £2 miliwn yn cael ei fuddsoddi mewn ystâd ddiwydiannol er mwyn creu 10 uned newydd a seilwaith cysylltiedig.

Daw’r arian o’r Undeb Ewropeaidd yn bennaf, ac yn rhannol gan Lywodraeth Cymru.

Cyllid Ewrop

“Rwy’n falch iawn o weld cyllid yr Undeb Ewropeaidd yn cael ei fuddsoddi mewn prosiectau sy’n helpu busnesau i dyfu’n gynaliadwy, a chreu cyfleoedd am swyddi lle mae dirfawr eu hangen,” meddai Mark Drakeford, Ysgrifennydd Cyllid Llywodraeth Cymru.

“Mae’r prosiectau hyn yn rhan o’n hymrwymiad ehangach i wneud Cymru’n fan llewyrchus a diogel i fyw a gweithio.”