Dengys gwaith ymchwil bod dynion sy’n filfeddygon yn ennill miloedd o bunnoedd yn fwy pob blwyddyn na merched sy’n gwneud yr un gwaith.
Mae cylchgrawn Cymdeithas Milfeddygon Prydain, y Vet Record, wedi holi 810 o filfeddygon yng ngwledydd Prydain, a chanfod bod gwahaniaeth cyflog sylweddol ar sail rhyw.
Yn ôl y wybodaeth a gasglwyd ar gyflogau milfeddygon ar gyfer 2016-2017, roedd dynes oedd yn filfeddyg ac yn bartner mewn practis yn ennill £51,315 y flwyddyn, ar gyfartaledd.
Ond roedd dyn mewn swydd gyffelyb yn cael £69,755, sef £18,440 neu 36% yn fwy o gyflog.
Yn ôl un o lywyddion Cymdeithas Milfeddygon Prydain mae “lle i boeni” am y gwahaniaeth mewn cyflogau dynion a merched yn y maes.
Mae Gudrun Ravets yn galw am “drefn yn seiliedig ar feini prawf gwrthrychol, er mwyn sicrhau tâl cyfartal am werth cyfartal”.
Mae merched sy’n filfeddygon yn ennill £41,152, ar gyfartaledd, tra bo’r dynion ar £46,921.
Ac mae nyrsys milfeddygol sy’n ferched yn ennill £19,594 ar gyfartaledd, tra bo dynion sy’n gwneud yr un gwaith ar tua £3,000 yn fwy o gyflog.