“Mae gan ferched mwy o reolaeth dros bethau, mae mwy o lais gyda nhw nawr. O’r blaen oedd merched dim ond fod edrych yn bert yn y cefndir,” meddai Pat Morgan, yr aelod o grŵp Datblygu a dorrodd dir newydd yn yr 1980au ac arwain y ffordd at genre newydd arbrofol yn y Gymraeg.
“Roedd y rhan fwyaf o bobol yn gweud ‘pam so chi jyst yn canu fel backing singer’… roedd pobol fel Rhiannon Tomos, wrth gwrs, yn sefyll mas… ond achos bod ni’n gwneud pethau mwy arbrofol, roeddwn i eisiau gweld merched yn arbrofi a gwneud pethau gwahanol.
“Doedd dim ffrindiau gen i oeddwn i’n gallu uniaethu gyda nhw… roedd merched yn ysgrifennu ataf i a gweud bod nhw’n edmygu’r grŵp.
“Ond y rhan fwyaf o amser, dim ond David oedd yn cael unrhyw fath o sylw, roeddwn i jyst yn troi lan a chuddio y tu ôl i’r amp… roedd pethau yn dueddol o daflu pethau arnon ni, achos bod ni’n gwneud pethau doedden nhw ddim yn licio clywed!
“Y peth oeddwn i’n grac amdano oedd ‘se ni yn y stiwdio, roedd pawb yn gofyn i David [am ei farn], doedd neb yn gofyn i fi beth oeddwn i’n meddwl am rywbeth, roedd e fel doedd dim barn gyda fi.
“Roeddwn i jyst yna i… sai’n gwybod, i edrych yn bert ‘falle? Nid dyna oedd fy mwriad i, roeddwn i eisiau cyfrannu ond doedd pobol ddim yn credu bod merched yn gallu rhoi barn.”
“Cock-rock” yr SRG
Ond erbyn hyn, mae Pat Morgan yn gweld bod pethau wedi newid y merched yn y sin, er ei bod yn disgrifio’r sin roc Gymraeg yn “cock-rock”.
“Fi’n credu bod pobol yn lot fwy cefnogol nawr, maen nhw eisiau gweld merched yn gwneud pethau.
“Mae e’n very sort of, cock-rock, cliché, bandiau gitâr, ac mae dynion yn really mwynhau gwneud hwnna, roedd David [o Datblygu] eisiau rock band hefyd.
“Dyw merched ddim fel yna really, dim y rhan fwyaf, does dim cystadleuaeth o bwy sy’n gallu bod yn well na’r llall. Mae e’n wahanol fath o vibe fi’n credu.
“Mae Gwenno [Saunders] wedi dangos y ffordd, mae digon o gyfleoedd i wneud pethau os wyt ti’n cadw ati, mae hi wedi llwyddo.”