Bydd cynllun rhentu beiciau yn cael ei lansio yn Abertawe, wedi i brifysgol y ddinas ennill cystadleuaeth Brydeinig.

Banc Santander oedd yn cynnal y gystadleuaeth, ac yn sgil y fuddugoliaeth bydd gwobr £100,000 yn cael ei rhoddi i’w wario ar sefydlu’r cynllun.

Nod y gystadleuaeth oedd codi swm o arian, a bu’r brifysgol yn cystadlu â phrifysgolion ym Mirmingham, Llundain, Surrey a Llongborth.

Bydd 50 beic yn cael eu gosod mewn pum safle ar hyd llwybr seiclo’r ddinas, gyda sawl un yn cael eu gosod ar gampws y brifysgol.

Mae prosiectau tebyg wedi’u sefydlu mewn dinasoedd eraill ym Mhrydain, ac ar ôl cael ei gosod yn Llundain mi dderbynion nhw’r llysenw ‘Beiciau Boris’ – ar ôl y cyn-Faer.