Mae nifer y marwolaethau o ymosodiad ar fosg yn yr Aifft ddoe wedi codi i 305, gan gynnwys 27 o blant, yn ôl prif erlynydd y wlad.

Cafodd yr ymosodiad ei gyflawni gan 25 i 30 o wrthryfelwyr mewn pump o gerbydau 4X4 yn nhref fach Bir al-Abd ym mhenrhyn Sinai.

Er nad oes neb wedi hawlio cyfrifoldeb am yr ymosodiad, y gwaethaf yn hanes modern yr Aifft, mae eithafwyr sy’n gysylltiedig â’r Wladwriaeth Islamaidd yn bresenoldeb cryf yn y rhan hon o’r wlad.

Roedd y mosg yn perthyn i Fwslimiaid Sufi, sy’n cael eu hystyried yn hereticiaid gan yr eithafwyr gan eu bod yn arddel daliadau mwy rhyddfrydig.