Roedd ymateb Carwyn Jones wrth annerch y wasg prynhawn ddydd Iau yn “gymesur a rhesymol” yn ôl academydd o Brifysgol Caerdydd.
Daeth y datganiad deuddydd wedi hunanladdiad yr Aelod Cynulliad, Carl Sargeant – gweinidog a gafodd ei wahardd o’r blaid yr wythnos ddiwethaf dros honiadau yn ei erbyn.
Roedd y Prif Weinidog yn “amlwg dan deimlad”, meddai’r Athro Richard Wyn Jones ac roedd i’w ganmol am “bwysleisio’r angen i fod yn dryloyw”.
“Dw i’n meddwl ei fod wedi dangos faint o glec mae hyn wedi bod iddo fo, yn ogystal â’i gyd-aelodau Llafur, ac yn wir ei gyd-aelodau yn y Cynulliad,” meddai wrth golwg360. “Nid yn unig trwy eiriau, ond trwy’r emosiwn amlwg oedd yn sail iddyn nhw.”
Profedigaeth deuluol
Roedd “trawma dwfn” yn y Cynulliad, meddai Richard Wyn Jones.
“Mae’r Cynulliad yn gorff bychan, mae grŵp Llafur yn llai, mae’r cabinet yn llai fyth, mi fydd y bobol yma wedi byw ym mhocedi ei gilydd am flynyddoedd lawer. Mae o fel profedigaeth deuluol.
“Dw i’n meddwl yr hyn rydym ni wedi gweld ydy trawma dwfn yn y Cynulliad, ac yn enwedig yn y grŵp Llafur. Ac mi fyddwn yn dychmygu ei fod hyd yn oed yn waeth y tu fewn i’r cabinet.”