Llun: Sean Dempsey/PA WireOwain Schiavone sy’n awgrymu fod gan John Toshack rai pethau i deimlo’n gadarnhaol ynglŷn a nhw ar hyn o bryd…

Ar un olwg, does gan gefnogwyr tîm pêl-droed cenedlaethol Cymru fawr ddim i deimlo’n gadarnhaol ynglŷn ag o wrth edrych ymlaen at gemau rhagbrofol Ewro 2012 yn yr Hydref. Wrth i hyder y selogion ddechrau codi yn dilyn canlyniad gwych yn erbyn yr Albanwyr, fe gollwyd ein chwaraewr gorau, Aaron Ramsey,i anaf creulon. Roedd hyn yn glec enfawr i gynlluniau John Toshack gan ei fod heb amheuaeth yn bwriadu adeiladu’r tîm o amgylch creadigrwydd y seren ifanc. Does dim sicrwydd pryd y bydd Ramsey yn ôl ar y cae, na chwaith os bydd o’n dychwelyd yn gystal chwaraewr. Does ‘na ddim argoel chwaith bod Toshack yn debygol o lyncu ei falchder a cheisio perswadio Ryan Giggs i ddychwelyd i helpu’r achos yn dilyn sylwadau gan Giggs yn y Western Mail. Ramsey neu beidio, byddai cael profiad Giggs nôl yn y garfan yn hwb enfawr i’r dreigiau ifanc.

Mae’n ymddangos taw ymgyrch ddiflas arall sydd o’n blaen ni’r tro yma eto…neu oes yna un fflach o obaith i Toshack? Mae Gareth Bale wedi cael wythnos anhygoel gyda’i dîm, Tottenham Hotspur. Nos Fercher, fe sgoriodd Bale y gôl fuddugol yn y ddarbi Gogledd Llundain yn erbyn Arsenal, gan sicrhau buddugoliaeth gynghrair gyntaf Spurs yn erbyn eu cymdogion ers 1999. Mae hyn yn rhoi Spurs mewn safle da i orffen yn bedwerydd yn y gynghrair, a sicrhau lle gwerthfawr yng Nghynghrair y Pencampwyr tymor nesaf. Cryfhawyd eu hachos ymhellach ddydd Sadwrn gyda buddugoliaeth yn erbyn un arall o dimau Llundain, Chelsea, ac unwaith eto, Bale, oedd yr arwr wrth iddo sgorio ail gôl ei dîm gydag ergyd troed dde. Yn wir, Bale oedd chwaraewr mwyaf dylanwadol Spurs ac roedd ei rediadau lawr yr asgell chwith yn fygythiad cyson i amddiffyn Chelsea – un o’r rhediadau hynny arweiniodd at drosedd sinigaidd gan, John Terry, a arweiniodd at gerdyn coch i gyn gapten Lloegr.

Mae’r trawsnewidiad yn Bale ers ddechrau’r flwyddyn wedi bod yn eithriadol. Cyn hynny, roedd ei yrfa yng ngogledd Llundain yn y fantol, gyda’i rheolwr, Harry Redknapp yn ffafrio’r chwaraewr cyffredin iawn Benoît Assou-Ekotto yn safle’r cefnwr chwith. Doedd y ffaith nad oedd Spurs wedi ennill gêm gyda Bale yn yr XI cyntaf ddim yn helpu ei achos chwaith. Ond, ers iddo adennill ei le yn y tîm ym mis Ionawr mae wedi troi cornel go iawn gan roi perfformiadau cyson a phrofi fod ganddo’r potensial i fod yn chwaraewr ochr chwith gorau’r gynghrair…os nad y byd, chwedl Harry Redknapp yn dilyn gêm Arsenal. Y cur pen mwyaf i Toshack fydd pa safle i chwarae Bale gan mae cefnwr chwith ydy o’n swyddogol, ond ar yr asgell mae o wedi bod yn chwarae i’w glwb yn ddiweddar. Gan fod Tosh yn ffafrio chwarae gyda thri amddiffynnwr canol, mae’n debygol mai rhywle yn y canol fel cefnwr ymosodol fydd y dewis.

Mae gan Toshack resymau eraill i deimlo’n optimistaidd hefyd, wrth i Abertawe a Chaerdydd wthio am lefydd yn gemau ail gyfle’r Bencampwriaeth. Mae llwyddiant Caerdydd yn rhannol gyfrifol i’r to o Gymry ifanc  yn eu rhengoedd gyda Darcy Blake ac Adam Mathews yn creu argraff yn ddiweddar, tra bod Joe Ledley hefyd wedi dychwelyd o anaf i gipio’r fuddugoliaeth yn erbyn QPR ddydd Sadwrn. Boed Caerdydd yno neu beidio, mae ‘na obaith reit dda o weld un neu ddau o’r rhain yn yr Uwch Gynghrair tymor nesaf. Yn yr un modd mae ‘na Gymry allweddol yn nhîm Abertawe, Ashley Williams,  Joe Allen a David Cotterill  – ill tri’n debygol o fod yn aelodau pwysig o garfan Toshack yn yr Hydref. Rhaid peidio anghofio chwaith am Nottingham Forest sydd â’r Cymry Rob Earnshaw a Chris Gunter yn eu tîm. Oll gyda’i gilydd, mae siawns da iawn y gwelwn ni gwota uwch o Gymry’n chwarae yng Nghynghrair uchaf Lloegr y tymor nesaf a rhaid bod hynny’n newydd da i’r tîm cenedlaethol.

Llun: Sean Dempsey/PA Wire