Mae gobeithion Plaid Cymru a’i chwaer blaid yn yr Alban yr SNP wedi ei dinistrio wrth i Ofcom ddyfarnu nad oes sail i’w cwynion o annhegwch yn nadleuon y Prif Weinidogion. Dyma’r datganiad i’r wasg yn llawn gan Ofcom…

Ofcom yn cyhoeddi penderfyniadau ar gwynion gan Blaid Genedlaethol yr Alban a Phlaid Cymru am y Ddadl Etholiadol Gyntaf.

Heddiw cyhoeddodd Ofcom nad yw wedi cadarnhau cwynion ynglŷn â didueddrwydd a cham gynrychiolaeth a dderbyniwyd gan Blaid Genedlaethol yr Alban (SNP) a Phlaid Cymru am y Ddadl Etholiadol Gyntaf a ddarlledwyd ar ITV1 am 8.30pm ar nos Iau 15 Ebrill 2010. Roedd y pleidiau gwleidyddol wedi cwyno bod y rhaglen ddim yn ddiduedd a’i fod hefyd yn gamarweiniol.

Dyfarnwyd ar y cwynion gan Bwyllgor Etholiad Ofcom sydd yn gallu ystyried cwynion yn ystod cyfnod etholiad lle yr ystyrir bod problem sylweddol wedi codi a lle y gallai fod angen cywiro’r gwyn, os caiff ei chadarnhau, cyn yr etholiad.

Ystyriodd y Pwyllgor yr holl gyflwyniadau a’r dystiolaeth a gyflwynwyd iddynt mewn perthynas â natur y systemau datganoledig yn yr Alban a Chymru ac o dan adrannau pump a chwech o’r Côd Darlledu. Penderfynodd na ddylid cadarnhau’r un o’r ddau gwyn, bod darllediad y Ddadl wedi cydymffurfio gydag adrannau pump a chwech o’r Côd Darlledu (yn ymwneud â didueddrwydd ac etholiadau) ac nad oedd angen unrhyw weithredu adferol ar ran trwyddedai ITV.

Mae’r penderfyniadau llawn ar gael yma.