Efallai bod Andy Coulson yn bennaeth cyfathrebu pen i gamp ond mae o wedi profi heddiw nad ydi ei amser o’n dda iawn. Mae o wedi bod dan bwysau am ei ran yn y sgandal hacio ffonau y News of the World ers misoedd ond heb ymddiswyddo.

Alla’i ddim meddwl am amser gwaeth iddo gyhoeddi ei fod yn mynd – mae’r Blaid Lafur dan bwysau mawr heddiw yn sgil ymddiswyddiad Alan Johnson, ac ail ymddangosiad Tony Blair o flaen ymchwiliad Chilcot. Ond drwy ymddiswyddo mae Andy Coulson wedi trosglwyddo’r holl sylw negyddol yn ôl i’r Llywodraeth.

Oes yna rywbeth ar fin torri sy’n golygu bod rhaid iddo fynd nawr? Ynteu a oedd yn gobeithio gallu sleifio allan drwy’r drws cefn tra bod y wasg yn canolbwyntio ar Blair a Johnson?