Bydd protest yn cael ei chynnal tu allan i Swyddfa Cymru yng Nghaerdydd fory (Tachwedd 15) i alw am gyllid teg gan Lywodraeth y Deyrnas Unedig.
Cyn i Lywodraeth San Steffan gyhoeddi Datganiad yr Hydref yr wythnos hon, mae undebau llafur yn galw ar y Canghellor Jeremy Hunt i gydnabod bod gwasanaethau cyhoeddus Cymru’n cael eu tanariannu.
Mae nifer o undebau sy’n cynrychioli gweithwyr yn y sector gyhoeddus yn cynnal pleidleisiau ar streicio ar hyn o bryd, ac er mai Llywodraeth Cymru sy’n gyfrifol am gyflogau’r sector, Llywodraeth y Deyrnas Unedig sy’n rheoli’r cyllid sydd ar gael i’w wario yng Nghymru.
Cyn Covid, cwtogodd cyllid Llywodraeth Cymru 8% mewn termau real, a dydy Cymru heb dderbyn yr arian fyddai’n cyfateb i fuddsoddiad Llywodraeth y Deyrnas Unedig ym mhrosiect rheilffyrdd HS2 yn Lloegr.
O ganlyniad i chwyddiant, mae Llywodraeth Cymru yn amcangyfrif bod y cyllid presennol gan San Steffan werth £4bn yn llai na phan gafodd ei gyhoeddi hefyd.
‘Haeddu gwell’
Mae ymchwil diweddar gan TUC Cymru, ffederasiwn undebau llafur y wlad, yn dangos bod chwarter y boblogaeth mewn rhannau o Gymru wedi methu prydau oherwydd yr argyfwng costau byw, tra bod hanner y boblogaeth yn dweud eu bod nhw’n gwario llai ar fwyd a chynhesu’r tŷ.
Mae TUC Cymru, fydd yn arwain y brotest fory, yn galw am gynnydd sylweddol i gyllideb Cymru er mwyn caniatáu i weithwyr y sector gyhoeddus dderbyn cynnydd codiad sy’n cyd-fynd â chwyddiant.
Ynghyd â hynny, maen nhw’n galw ar y Canghellor i godi’r isafswm cyflog i £15 yr awr a chynyddu taliadau Credyd Cynhwysol.
“Yn syml, all Cymru ddim fforddio cyni 2.0,” meddai Shavanah Taj, Ysgrifennydd Cyffredinol TUC Cymru.
“Rhaid i Lywodraeth y Deyrnas Unedig gamu ymlaen a sylweddoli bod dros ddegawd o danariannu a thanfuddsoddi yng Nghymru wedi bod yn drychineb.
“Mae gweithwyr Cymru’n haeddu gwell.
“Dydy gweithwyr yn sectorau preifat na chyhoeddus Cymru ddim am dderbyn y toriadau anferthol i’w hincwm.
“Dyna pam ein bod ni’n gweld athrawon, nyrsys, gweithwyr y rheilffordd, postmyn, a llawer mwy yn wynebu streicio.”
Bydd y brotest yn cael ei chynnal am 8yb fory, Tachwedd 15, tu allan i Swyddfa Cymru ar Sgwâr Canolog Caerdydd.