Roedd Elin Jones yn dweud ar S4C ar nos Wener gynta’r Eisteddfod Genedlaethol fod trigolion Ceredigion yn adnabyddus am eu dyfeisgarwch – does ond angen i chi fod wedi teithio trwy drefi a phentrefi’r sir dros y dyddiau diwethaf i weld hynny, gyda phob cymuned yn datgan fod yr Eisteddfod Genedlaethol ar ei ffordd.

Allwch chi ddim teithio’n bell heb weld baner neu bunting yn hongian ar gartrefi, ar bolyn, ar ffens… Os oes ’na ofod, gallwch chi fod yn siŵr fod yna ryw arwydd o’r ’Steddfod yn ei lenwi fe. A pham lai?! Chwarae teg, mae’r Cardis wedi bod yn aros amser hir i’r Brifwyl gyrraedd, a hithau i fod wedi’i chynnal y flwyddyn ddaeth y cyfnod clo gwreiddiol. Os y’ch chi’n gyfarwydd â chael croeso cynnes yn flynyddol i fro’r ’Steddfod, chewch chi’n sicr mo’ch siomi eleni.

Wrth deithio o Abertawe nos Wener yn barod at Lloergan yn y Pafiliwn (a honno’n wych o sioe, gyda llaw!), ro’n i wedi disgwyl gweld yr arwyddion melyn cyfarwydd wrth groesi’r ffin i mewn i Geredigion – felly dychmygwch fy syndod o weld yr arwydd cynta’ jyst wrth adael fy sir fy hun – oedd, roedd ’na arwydd mor bell i ffwrdd o fro’r ’Steddfod â Phont Abraham, jyst dros y ffin yn Sir Gaerfyrddin. All neb ddweud nad yw’r Cardis yn dda am genhadu!

A dyma gyfle i genhadu ar ran golwg360 a Lingo360 hefyd. Bydd golwg360 a Bro360 yno ar Faes yr Eisteddfod bob cam o’r ffordd gyda chi, gan ddod â’r diweddara’ i chi o’r Pafiliwn, o’r Maes ac o’r amryw o sefydliadau a chymdeithasau sydd wedi gosod eu stondinau. Byddwn ni, wrth gwrs, yn rhoi sylw i enillydd y brif seremoni bob dydd, yn dilyn hynt a helynt cystadleuwyr sy’n cael llwyfan ac yn dod â’r prif straeon i chi o bob cwr o’r Maes. Ewch draw i’r hafan i weld ‘Eisteddfod Genedlaethol Ceredigion yn Nhregaron’ – a chofiwch ein dilyn ni ar ein holl dudalennau Facebook, Twitter ac Instagram.

Ac am y tro cyntaf erioed, bydd Lingo360 ar y Maes, gan roi sylw i’r pedwar sydd yn y ras i fod yn Ddysgwr y Flwyddyn (cofiwch fynd draw i http:/lingo.360.cymru). Pob lwc i chi i gyd!

Mwynhewch y ’Steddfod, a chymerwch ofal wrth i heolydd Cymru ddod â chi i Dregaron o’ch cornel fach chi o Gymru. A chofiwch alw draw i’n gweld ni ar stondin 435-438 i fynnu copi o gylchgrawn golwg – mwy am y ’Steddfod i ddod yn rhifyn wythnos nesaf!

Dyma flas o’r daith liwgar y gallwch chi ei disgwyl ar yr heolydd rhwng Aberaeron a Thregaron… Hwyl yr ŵyl!