Mae stori eliffant yn rhan o chwedloniaeth Tregaron, ond mae Llywydd Senedd Cymru a chadeirydd Pwyllgor Gwaith Eisteddfod Genedlaethol Tregaron wedi datgelu bod yr Eisteddfod “wedi mynd ar ofyn” syrcas gan nad oedd rhai adeiladau allweddol wedi cyrraedd y Maes bythefnos cyn dechrau’r Brifwyl.

Mewn rhaglen ar S4C neithiwr (nos Sadwrn, Gorffennaf 30), dywedodd Elin Jones wrth Tudur Owen nad oedd ganddyn nhw Ganolfan Groeso, pafiliwn Maes B na Theatr gan nad oedden nhw wedi dod i’r Maes mewn da bryd.

Dywedodd mai problemau’n ymwneud â Brexit a Covid-19 oedd yn gyfrifol, ond fod y syrcas yng ngwledydd Prydain wedi eu “hachub” nhw yn y pen draw gan fod “rhoi Maes at ei gilydd yn y cyd-destun yna wedi bod yn ddigon heriol”.

“Fe wnaeth ambell i syrcas yng ngwledydd Prydain ddod i’r adwy,” meddai.

“Mae gyda ni Faes B newydd a Chanolfan Groeso oedd ddim y rhai o’n ni’n disgwyl bythefnos yn ôl, ond mae yna bobol wedi dod i’n hachub ni.

“Bydd yna ambell glown ar y Maes,” meddai wedyn â’i thafod yn ei boch. “Mae gyda ni draddodiad o glowns yng Ngheredigion felly byddan nhw’n ddigon cysurus!”

Yn y cyfamser, bydd y Sbectacl Syrcas oedd i fod i gael ei chynnal neithiwr (nos Sadwrn, Gorffennaf 30) wedi’i gohirio tan heno (nos Sul, Gorffennaf 31).