Mae’r cynlluniau wedi eu cyhoeddi ar gyfer gorsaf drenau Parcffordd Caerdydd yn nwyrain y brifddinas.

Y bwriad yw i’r orsaf newydd ddarparu gwasanaethau ar gyfer 800,000 o deithwyr y flwyddyn, gyda theithiau i orsafoedd Caerdydd Ganolog a Chasnewydd mewn saith munud yn unig.

Bydd y cynlluniau hefyd yn cynnwys parc busnes, gyda 90,000 metr sgwâr o swyddfeydd a lle i filoedd o swyddi.

Mae disgwyl i bwyllgor cynllunio Cyngor Caerdydd bleidleisio ar gymeradwyo’r cynlluniau gwerth £120m ym mis Chwefror.

Pe bai’n cael caniatâd i fynd yn ei flaen, mae’n debyg y byddai’r orsaf yn cael ei hadeiladu erbyn 2024, gydag wyth trên yr awr yn teithio rhwng Caerdydd a Chasnewydd.

‘Hybu trafnidiaeth gynaliadwy’

Byddai’r datblygiad yn ardal Llaneirwg yng Nghaerdydd yn hwb mawr i economi dwyrain y ddinas, yn ôl Nigel Roberts, cadeirydd Cardiff Parkway Developments.

“Mae ein cynigion ar gyfer ardal fusnes cynaliadwy a hygyrch gyda thrafnidiaeth gyhoeddus a theithio llesol yn ganolog iddo,” meddai.

“Bydd y datblygiad unigryw hwn yn dod â buddsoddiad i ardal sydd wedi dioddef o danfuddsoddi ers amser, yncreu cyfleoedd cyflogaeth newydd, ac yn cysylltu pobol yn well yn y rhanbarth hwn yn ne ddwyrain Cymru.

“Rydyn ni’n anelu at ddarparu gwasanaethau cyfleus a chyflym, gyda phrofiad o ansawdd uchel i gwsmeriaid, yn enwedig ar gyfer trafnidiaeth gyhoeddus a theithio llesol, i hybu trafnidiaeth gynaliadwy fel y dewis amlwg.”

Lleoliad arfaethedig y datblygiad

Opsiynau

Mae’r datblygiad am gael ei godi rhwng Heol Las a Cypress Drive yn Llaneirwg, ardal sydd â diffyg opsiynau pan mae’n dod i drafnidiaeth gyhoeddus, gyda bws i ganol y ddinas yn cymryd hyd at awr.

Yn ôl adroddiad gan yr Arglwydd Burns, byddai’r parcffordd hefyd yn rhan allweddol wrth gynnig opsiynau amgen i adeiladu ffordd liniaru’r M4.

“Er bod yr heriau digynsail rydyn ni i gyd wedi gorfod eu dioddef dros y ddwy flynedd ddiwethaf wedi effeithio ar ein rhaglen, mae ein tîm â’r un brwdfrydedd ag erioed,” meddai Nigel Roberts wedyn.

“Rydyn ni wedi bod yn gweithio’n galed gyda rhanddeiliaid allweddol i baratoi i gyflawni’r cynllun, ac rydyn ni wrth ein bodd bod Syr Peter Hendy wedi cymeradwyo adroddiad yr Arglwydd Burns lle mae Parcffordd Caerdydd yn un o’r argymhellion allweddol.

“Rydyn ni’n edrych ymlaen yn fawr at droi’r argymhelliad hwnnw’n realiti i bawb trwy ddechrau ar y safle’r flwyddyn nesaf cyn gynted ag y bydd ein cais cynllunio wedi’i bennu.”