Mae niferoedd myfyrwyr rhyngwladol sy’n derbyn cynnig i astudio mewn prifysgol yng Nghymru wedi cynyddu 19% yn y flwyddyn ddiwethaf yn unig.

Dangosodd data gan gorff UCAS bod 1,875 o fyfyrwyr rhyngwladol wedi dewis astudio yng Nghymru yn ystod 2021, ac mae’r cynnydd o 19% yn un o’r uchaf yng ngwledydd Prydain.

Roedd yr ymchwil hefyd yn dangos bod nifer yr holl geisiadau a gafodd eu derbyn gan brifysgolion yng Nghymru hefyd wedi cynyddu 1.5% o gymharu gyda’r flwyddyn ddiwethaf, sy’n golygu mai Cymru oedd yr unig wlad o’r Deyrnas Unedig i weld cynnydd mewn derbyniadau.

Ar ben hynny, roedd 6% yn fwy o Gymry wedi ymgeisio am le mewn prifysgol yn ystod y flwyddyn ddiwethaf.

‘Chwarae rôl amhrisiadwy’

Yr Athro Iwan Davies yw Cadeirydd Cymru Fyd-eang, partneriaeth sy’n hyrwyddo’r sector addysg uwch yng Nghymru mewn marchnadoedd rhyngwladol.

Dywedodd bod myfyrwyr rhyngwladol yn “chwarae rôl amhrisiadwy” wrth wneud cymunedau prifysgolion Cymru yn fwy amrywiol, mewn amser lle mae “cynnal safbwyntiau rhyngwladol yn fwy pwysig nag erioed.”

“Yng nghyd-destun heriau pandemig Covid-19, mae’n galonogol iawn gweld bod derbyniadau rhyngwladol wedi parhau’n gryf a bod ceisiadau rhyngwladol wedi cynyddu ledled Cymru,” meddai.

“Mae hyn gyda diolch i’r hyblygrwydd a’r dulliau arloesol sydd wedi ei datblygu gan brifysgolion, a’r croeso cynnes a phrofiad rhagorol y gall pob myfyriwr ddisgwyl ei gael yn ein sefydliadau.

“Mae Cymru Fyd-eang yn rhoi cyfle i fanteisio ar gryfderau ein prifysgolion tra hefyd yn cefnogi Cymru i ddiffinio ei rôl ar lwyfan y byd.

“Gyda chefnogaeth barhaus y prosiect, rwy’n hyderus y bydd prifysgolion Cymru yn parhau ar y trywydd iawn i gyflawni eu nod o dyfu niferoedd myfyrwyr rhyngwladol i 30,000 erbyn 2030.”

‘Ystod eang o fanteision i fyfyrwyr’

Cyfeiriodd Cadeirydd Prifysgolion Cymru, yr Athro Elizabeth Treasure, at y ffaith bod mwy o bobol o Gymru yn penderfynu mynd ymlaen i astudio mewn prifysgolion ledled y Deyrnas Unedig.

“Mae’r ffigyrau diweddaraf gan UCAS yn dangos bod galw mawr o hyd am addysg uwch yng Nghymru gyda mwy o bobl ifanc nag erioed o’r blaen yn dewis mynd i’r brifysgol,” meddai.

“Mae profiad y brifysgol yn cynnig ystod eang o fanteision i fyfyrwyr: nid yn unig o ran cyfleoedd cyflogaeth, ond hefyd yn y cyfleoedd cymdeithasol a diwylliannol ehangach y mae ein sefydliadau’n eu cynnig.

“Mae’n wych gweld y nifer uchaf erioed o bobol ifanc yn parhau i werthfawrogi’r cyfleoedd hyn. Mae ein myfyrwyr yn rhan bwysig a gwerthfawr o’n cymunedau ledled Cymru.

“Dymunwn y gorau i bawb sydd wedi ymuno â’n prifysgolion eleni o Gymru a thu hwnt.”