Mae Gwyn Jenkins wedi ysgrifennu’r canllaw hanfodol i’r Cwpan y Byd yn Ne Affrica fis nesaf, sydd ar gael i’w brynu o wefan y Lolfa.

Bydd pawb yng Ngweriniaeth Iwerddon yn gobeithio y bydd Ffrainc ar yr awyren gyntaf adref. Ond allai pencampwyr 1998 ffynnu eto eleni?

Y Wlad

Poblogaeth: 62 miliwn

Prif iaith: Ffrangeg

Prifddinas: Paris

Arweinydd: yr Arlywydd Nicolas Sarkozy

Llysenw: Les Bleus (y gleision)

Yr Hyfforddwr

Raymond Domenech:

Domenech, a benodwyd yn hyfforddwr Ffrainc yn 2004, yw un o’r hyfforddwyr mwyaf dadleuol yn y byd. Cafodd ei feirniadu’n hallt gan y wasg a gan rhai o’r chwaraewyr am ei dactegau anarferol. Serch hynny, llwyddodd Les Bleus i gyrraedd rownd derfynol Cwpan y Byd yn 2006, ond anwadal bu perfformiadau’r tîm ers hynny. Mae Domenech yn credu mewn Seryddiaeth a bydd yn ddiddorol gweld a fydd y sêr o’i blaid yn Ne Affrica.

Y Daith

Siomedig oedd perfformiad Ffrainc yn y gemau rhagbrofol gan i Les Bleus ddod yn ail y tu ôl i Serbia. Enillwyd lle yn y rowndiau terfynol yn y modd mwyaf dadleuol pan sgoriwyd y gôl dyngedfennol yn y gemau ail-gyfle yn erbyn Gweriniaeth yr Iwerddon, wedi i Thierry Henry lawio’r bêl.

Y Record

Yn 1998 enillodd Ffrainc Gwpan y Byd am yr unig dro hyd yn hyn, gan guro Brasil ym Mharis o 3-0. Yn 1958 yn Sweden collodd Les Bleus yn y rownd gynderfynol ond llwyddodd y blaenwr Just Fontaine i sgorio cyfanswm o 13 gôl yn ystod y twrnamaint.

Sêr o’r Gorffennol

Raymond Kopa:

Blaenwr amryddawn a chwaraeodd yn nhîm llwyddiannus yr 1950au, gan sgorio 18 gôl dros ei wlad. Ymunodd â Real Madrid yn 1956 yn ystod oes aur y clwb o brifddinas Sbaen.

Zinedine Zidane:

Pêl-droediwr gorau ei ddydd, sgoriodd ddwywaith yn y rownd derfynol yn erbyn Brasil yn 1998 ond yn ei gêm olaf dros ei wlad, rownd derfynol 2006, danfonwyd ef o’r maes.

Gwyliwch Rhain

Patrice Evra:

Prin bod cefnwr chwith yn y byd yn fwy peryglus wrth ymosod na seren Manchester United ond bydd cystadleuaeth gref rhyngddo ag Éric Abidal, amddiffynnwr Barcelona, am safle yn y tîm yn Ne Affrica.

Thierry Henry:

Blaenwr chwim a fu’n serennu dros Arsenal a Barcelona. Sgoriodd record o dros hanner cant o goliau dros ei wlad hyd yn hyn ond caiff ei gofio am lawio’r bêl cyn y gôl dyngedfennol yn erbyn Gweriniaeth yr Iwerddon a sicrhaodd lle Les Bleus yn Ne Affrica.

Y Seren

Franck Ribéry:

Mae’r asgellwr byr llawn sgiliau, sydd bellach yn chwarae i Bayern Munich yn y Bundesliga, yn allweddol i lwyddiant Ffrainc. Sgoriodd y goliau a ddaeth â buddugoliaethau pwysig yn erbyn Lithuania yn y rowndiau rhagbrofol. Enwebwyd ef yn chwaraewr y flwyddyn yn Ffrainc a’r Almaen yn yr un flwyddyn – 2008. Mae’n hawdd ei adnabod ar ac oddi ar y cae oherwydd y creithiau ar ei wyneb, canlyniad i ddamwain car pan yn blentyn.