Dai Lingual yn mynnu bod angen clwb Cymraeg yn y brifddinas …
Brynais i bapur newydd heddiw, fel arfer ar Ddydd Sul hoff gen i’r Observer, ond roedd @garmonceiro mor negatif ynglŷn â’r cynnwys yno heddiw mai mynd at y stondin bapurau er mwyn gweld beth oedd ar gael wnes i.
Fodd bynnag doedd dim dewis difyr iawn yn yr archfarchnad sy’n cynnig Neithdar o’r nefoedd i’r Cardi, ac megis Wood-ite modern, gwympes i i’r chwith o’r Telegraph ac at y Mirror.
Yr unig reswm dros ddod â hyn i’ch sylw yw mai anaml y byddaf yn prynu papur erbyn hyn, ar y We y mae dyn yn dod o hyd i’r diweddaraf ynde? Mae prynu papur newydd megis defod amheuthun erbyn heddiw, yn weithred yr un mor annhebygol â dod o hyd i gaffi sy’n gallu gwasanaethu paned – neu ddishgled – o de teidi.
A dydi rhoi ffonau symudol yn eich esgidiau trwm dros nos ddim yn mynd i helpu iddyn nhw sychu, wsti.
Gyda llaw, nid celwydd na chrafu ydw i pan dw i’n sôn taw ar y tudalennau yma ar www.golwg360.com yr ydw i’n dod o hyd i lawer o’r newydd – via’r trydar ambell waith, megis stori Clwb Ifor…
Yn y Clwb
Cadarnhaf fy mod i wedi bod i gwrdd â Chlwb Ifor ers y newydd, ac yn fy rhith newydd @cardiffrinj byddaf yn ceisio rhoi cais at ei gilydd o ddigwyddiadau ac awgrymiadau at fudd yr adeilad yn y tymor byr yn ogystal â’r tymor nesaf.
Dydw i ddim o’r farn y bydd y miloedd lawer o arian a all fod yn gronfa i’r iaith Gymraeg petai’r adeilad yn cael ei werthu yn werth fwy yn y pen draw na chanolfan yng nghalon y ddinas o dan gysgod Stadiwm y Mileniwm, ta waeth be ddywedith neb wrtha’ i – ac yng Nghaerdydd mae yna sawl barn i gael cofiwch chi.
Ta waeth, tro ein cenhedlaeth ni yw hi nawr, ac i’r rhai ohonoch sydd yn fy nabod, rhowch awgrym neu alwad neu e-bost, ac i chwi ddarllenwyr sydd wedi f’osgoi yn llwyddiannus hyd heddiw, ystyriwch chi faint o le sydd ganddoch chi yn eich bywyd i gyfranogi at Glwb Cymreig y brifddinas.
Fel dw i eisoes wedi sôn wrth neb sy’n fodlon gwrando, newidiwch chi enw’r ddinas o Gaerdydd i Berlin er enghraifft ac yn sydyn iawn gewch chi frathiad o be ddyle ddigwydd …
Dychmygwch be ddigwyddai petai adeilad maint Clwb Ifor Bach yn sydyn iawn ar gael fel canolfan celfyddydol i griw diwylliannol Berlin – a dyna lle ddylen ni fod yn anelu. Ie, digwydd bod fydd www.womex.com yma hefyd yn yr hydref.
Pa fath o hysbyseb fyddai hi i’r byd petai Glwb Cymraeg y Brifddinas wedi cau ei drysau pan ddaw Ffair Ddiwydiannol y Byd Cerddorol i Gaerdydd? :
“Cardiffili?”
Mis Mawrtholoemew?
Mae mis Mawrth newydd fynd felly. Efallai ei bod hi’n DDYDD Mawrth yn eich byd chi hefyd; erbyn i chi gael y cyfle i dreiddio trwyddo i flogs y wefan hon – yn ogystal â’r newyddion beunyddiol.
Yn ddiweddar, daeth i sylw griw o athronyddion mwyaf Prifysgol Aberystwyth bod y homoffoni hwn yn gallu bod yn ddryslyd o bryd i’w gilydd, a doedd hi ddim yn ymddangos bod y ffaith bod y dydd a’r mis o’r un tarddiad – sef y blaned Mawrth – yn fawr o gysur i unrhywun.
Sut felly mae’r Saesneg yn osgoi’r cawlach? Tuesday a March – hollol wahanol. Fe wna i adael hynny’n benagored i chi gael ymchwilio am ennyd, dw i’n saffach braidd yn son am Mars a Mardi yn y Ffrangeg (diweddebau gwahanol, dyna syniad I’w ystyried efallai?) a’r Almaeneg -Diens a Mars sydd ganddyn nhw greda i.
Ac efallai bod hynny’n ateb y cwestiwn : ymddengys taw’r hen ffurf Anglo-Sacsonaidd / Hen Saesneg sydd wedi goroesi yn yr iaith fain, tra’n bod ni wedi cadw at y Lladin, fel Ffrainc. Dydi hyn fawr o gysur o hyd, cofiwch.
Efallai taw ymgyrch arall sydd ei hangen, nawr bod Undeb Rygbi Cymru wedi trydar unwaith yn y Gymraeg am grempogau, a bod Radio Cardiff wedi dod o hyd i gyflwynwyr Cymraeg go iawn, mae’r amser gen i i ystyried … beth am Ddydd MAWR a Mis Mawrtholemew, er enghraifft? Wel, mae’r awgrym yna; fel ym mhob achos arall, y bobol sy’n dewis datblygiad yr iaith, felly fe gawn ni weld beth a ddaw…