Ar noson yn Hydref 1948 aeth tua 80 o aelodau Côr y Rhos ar daith o ryw 4,000 o filltiroedd i Sbaen ar wahoddiad un o fudiadau cyfundrefn Franco, Educación y Descanso, sef Addysg a Hamdden a oedd dan reolaeth mudiad Ffasgaidd, y Falange. Prin dair blynedd oedd ers diwedd yr Ail Ryfel Byd, wyth mlynedd ers rhyddhau’r carcharor Prydeinig olaf o garchardai Franco a naw mlynedd ers diwedd Rhyfel Cartref Sbaen. Dyma bentref a oedd â chysylltiadau â’r gatrawd ryngwladol a frwydrodd yn erbyn byddinoedd Franco yn cytuno i gefnogi taith ar wahoddiad y gyfundrefn honno.
Teg yw disgrifio Rhosllannerchrugog fel pentref ac iddo draddodiadau gwleidyddol a diwylliannol cryf yn y cyfnod hwn ac nid yw’n syndod deall na fu i’r côr ymgymryd â’r daith ar chwarae bach. Un oedd â chysylltiadau agos â’r pentref oedd Tom Jones, neu Twm Sbaen, y carcharor rhyfel Prydeinig olaf i’w ryddhau o garchardai Franco ar ôl y Rhyfel Cartref. Wrth i’r côr baratoi eu taith i Sbaen roedd yr atgof am aberth llawer yn enw Gweriniaeth Sbaen yn fyw o hyd.
Harold Tudor, aelod o’r Cyngor Prydeinig, ac un o sefydlwyr Eisteddfod Llangollen, oedd trefnydd y daith i Sbaen. Un o’r corau yn yr ŵyl gyntaf yn Llangollen yn 1947 oedd côr o fwynfeydd mercwri Almadén. Un o’r rhai a deithiodd gyda’r côr o Sbaen oedd Manuel Chusa, un o benaethiaid Educación y Descanso. O ganlyniad, estynnwyd gwahoddiad i gôr o Gymru ymweld â Sbaen y flwyddyn ganlynol.
Dyma’r cyfuniad o ffactorau gwahanol sy’n cynnig cefndir arbennig i’r daith hon: ar un llaw, pentref gweithgar, diwylliedig, yn gyfarwydd ag ymgyrchoedd o blaid y Weriniaeth yn ystod Rhyfel Cartref Sbaen, gyda thraddodiadau sosialaidd cryf; ar y llall, pentref ynghanol bwrlwm creu cysylltiadau diwylliannol rhyngwladol mewn awyrgylch o ffydd a heddwch ar ôl yr Ail Ryfel Byd.
Roedd y wasg yn lleol yn gefnogol i’r daith, yn enwedig ei hamcanion heddychlon. Yn ôl y Wrexham Leader, roedd problemau gwleidyddol – ‘The choir have been criticised for visiting a country which has the Fascist Franco as its ruler’ – ond mae’n egluro bod y côr yn cyfiawnhau eu taith er mwyn heddwch byd eang.
Bu tipyn o drafod yn ogystal yn nhudalennau’r Faner. Mewn erthygl olygyddol ar 15 Medi 1948, mae’r papur yn nodi na allai mewn unrhyw fodd gefnogi cyfundrefn dotalitaraidd, ond: ‘Gwae ni os ceisiwn atal llifeiriant celfyddyd dros ffiniau’r gwledydd’. Ystyriai’r papur fod aelodau’r côr yn ‘genhadon hedd’ ac yn mynd ‘yn genhadon byw dros ein democratiaeth i ganol y Sbaenwyr’.
Un o feirniaid mwyaf amlwg y daith oedd Cyril O. Jones, cyfreithiwr a chyn faer Wrecsam. Dadleuodd: ‘How choirs of working people from this country can be deluded into going over to Spain and accepting the hospitality of a regime such as that which rules in Spain to-day is more than I can understand.’ Roedd yn gweld y byddai’r daith o fudd propaganda i’r gyfundrefn, nid yn unig yng Nghymru, ond yn Sbaen hefyd. Mynnodd Harold Tudor y gellid cyfiawnhau’r ymweliad gan fod y côr wedi eu gwahodd gan undebau’r gweithwyr.
Yn gyffredinol roedd llythyrwyr i’r papurau lleol yn cefnogi’r daith a denodd y dadlau gyfraniad o Lundain gan Babydd amlwg a oedd yn arddel cyfeillgarwch personol gyda Franco, Halliday Sutherland: ‘The visit of the Welsh choir will give pleasure to General Franco, who told me that he desired reciprocal visits between all classes in Britain and Spain, especially between the working classes of the two countries.’
Beth sy’n bendant yw bod amseriad y daith arfaethedig yn dod ar drobwynt ym mherthynas Prydain gyda Sbaen a’r newid polisi yn dod yn gyntaf o gyfeiriad yr Unol Daleithiau fel strategaeth yn erbyn Comiwnyddiaeth.
Gwaith gan R. Bryn Williams, y cyfieithydd swyddogol, gweinidog, bardd ac ysgolhaig, sy’n cynnig y darlun mwyaf manwl o gyfnod y côr yn Sbaen. Mae’r llyfr yn rhoi blas o’r daith ac yn ymdrech, yng ngeiriau Williams, i roi golwg ddiragfarn ar wleidyddiaeth Sbaen. Mae’n cyfiawnhau’r daith fel un gan Gristnogion a Phrotestaniaid, taith mewn heddwch i ddysgu’r Sbaenwyr am draddodiadau celfyddydol Cymru.
Yn wahanol I lawer o lenyddiaeth arall o’r un cyfnod, mae modd dadlau hefyd bod y llyfr yn dangos sensoriaeth a phropaganda gwleidyddol cyfundrefn Franco ar waith, yn benna’ mewn tair ffordd: yn y darlun o wlad o ddigonedd o fwyd, yn y disgrifiad o amodau gwaith cyffredinol yn Sbaen, ac yn yr hanes am ryddid mynegiant.
Mae’r bwyd yn arwydd o’r arian a’r gofal a roddwyd i baratoi’r ymweliad hwn. Dywedodd Noel Evans na welodd erioed y fath fwyd, yn enwedig o’i gymharu â Chymru ar y pryd. Ond mae’r digonedd hwn yn hollol i’r gwrthwyneb i beth a wyddom heddiw am hanes economaidd Sbaen yn y cyfnod. Ar ymweliad â phentref Langreo yng ngogledd Sbaen, gofynnwyd iddyn nhw a oedd digon o fwyd ganddyn nhw yng Nghymru, ac os nad oedd, gellid danfon peth draw o Sbaen atynt.
Gwyddom erbyn heddiw fod cyfundrefn Franco yn awyddus i greu delwedd o ddigonedd ar gyfer y wasg ryngwladol. Elfen bwysig o’r ddelwedd hon fyddai bod gweithwyr cyffredin yn Sbaen yn cael eu trin yn dda, bod ganddynt amodau gwaith teg a digon o gyfleoedd. Ym Marcelona gwahoddwyd y côr i ginio mawr gydag arweinwyr busnes mewn bwyty trawiadol a oedd yn edrych i lawr ar y ddinas fodern a diwydiannol, a dangoswyd iddynt bod dros 200,000 o weithwyr yn cael eu cyflogi ar y pryd mewn 1500 o ffatrïoedd cotwm.
Gwyddom, serch hynny, nad undebau democrataidd oedd o dan y gyfundrefn. Gwaharddwyd yr undebau a fodolai cyn cyfundrefn Franco ac aed ati i sefydlu amodau gwaith gormesol o dan undebau tebyg i’r rhai a sefydlwyd gan yr Almaen o dan Hitler, lle’r oedd rheolwyr a gweithwyr o fewn yr un undeb. Mae modd dadlau felly mai darlun wedi’i greu’n fwriadol o ochr gadarnhaol y mudiadau Addysg a Hamdden a welodd y côr yn Sbaen: ni chawsant gyfle i ymchwilio i wleidyddiaeth yr undebau nac i holi cwestiynau dyfnach am amodau gwaith.
Yn ôl R. Bryn Williams, ni fu cyfyngiad arnynt chwaith fel côr rhag mynegi eu hunain yn agored ar y radio, mewn darllediadau byw ac ni welodd unrhyw Sbaenwr yn methu dweud dim yn agored. Nid yw hyn yn cyfateb â’n gwybodaeth ni heddiw o gyfundrefn Franco. Gwyddom hefyd fod sensoriaeth lem ar ieithoedd heblaw Sbaeneg – Catalaneg, Basgeg a Galisieg – ond dywedodd R. Bryn Williams fod y bobl hyn yn cael arddangos eu traddodiadau gwerin.
Mae’r adroddiadau am y daith yn y wasg yn Sbaen yn canmol y cyngherddau. Ym Madrid, cynhaliwyd pedwar cyngerdd i dros 6,000 o bobl ac, yn ôl Harold Tudor, dyma oedd ‘the most outstanding Hispano-cultural event for several years’.
Wedi dychwelyd, cyhoeddwyd bod y daith yn llwyddiant ysgubol. Mewn adolygiad o lyfr R. Bryn Williams yn y cylchgrawn Lleufer yn 1950, bu Ambrose Bebb yn falch: ‘Gwych o beth ydoedd i’r côr hwn gael ei wahodd i ddangos ei wrhydri mewn gwlad bell’. Mae’r llyfr yn dangos ymrwymiad arloesol ar ran aelodau’r côr, ymwybyddiaeth a thrafodaeth brin o wleidyddiaeth Franco mewn llenyddiaeth o’r cyfnod a thystiolaeth llygad-dyst o ôl llaw bropagandaidd cyfundrefn Franco ar drobwynt pwysig yn hanes Sbaen.
Y papur llawn yn Gwerddon 15, Gorffennaf 2013