Mae Dr Sharon Huws a chydweithwyr o Ysgol y Gwyddorau Biolegol, Prifysgol Queen’s, Belfast, yn dadansoddi’r heriau sydd yn wynebu’r diwydiant cynhyrchu cig a llaeth byd-eang ac yn disgrifio rhai dulliau gwyddonol i’w datrys.
Mae gwartheg (da byw) yn cyfrannu tua 1.4 y cant o gynnyrch amaethyddol y byd ac mae’r diwydiant yn cyflogi rhyw 20 y cant o boblogaeth y byd. Ond mae gwrthdaro rhwng defnyddio tir i fagu da byw a’i ddefnyddio i gynhyrchu grawn i’w fwyta gan bobl, neu gynhyrchu planhigion i’r diwydiant biodanwydd neu adeiladu tai.
Serch hynny, mae cynnyrch da byw yn cyfrannu rhan bwysig at ddeiet cytbwys, gan gynnwys fitaminau a maetholion sydd eu hangen arnom ar gyfer datblygiad corfforol a meddyliol plant. Felly, mae amaethyddiaeth a chynnyrch cilgnowyr (anifeiliaid sy’n cnoi cil – ruminants) yn bwysig, nid yn unig i lwyddiant yr economi fyd-eang, ond er mwyn sicrhau ein hiechyd. Er hyn, mewn gwledydd datblygedig rydym yn bwyta gormod o’r cynnyrch gan arwain at broblemau iechyd difrifol fel clefyd y galon a chanser y coluddyn.
Mae ystadegau Llywodraeth Prydain yn dangos y bydd prinder byd-eang o gynnyrch cilgnowyr erbyn 2050 o ganlyniad i gynnydd ym mhoblogaeth y byd i 8.9 biliwn a symudiad tuag at ddeiet mwy gorllewinol yn y Dwyrain Pell. Bydd hyn yn arwain at straen graddol ar argaeledd llaeth a chig. Y sialens i ymchwilwyr ym maes gwyddor anifeiliaid yw hybu tyfiant yr anifail mewn modd cynaliadwy, er mwyn sicrhau diogelwch cyflenwadau llaeth a chig yn y blynyddoedd i ddod.
Ynghyd â sicrhau bod digon o laeth a chig ar gael yn y dyfodol, mae’n hollbwysig bod y cynnyrch o ansawdd da, ac yn cael ei gynhyrchu mewn modd sy’n sicrhau yr allyriadau nwyon tŷ gwydr isaf posibl. Mae’r diwydiant magu da byw yn cyfrannu tua 9 y cant o allyriadau anthropogenig CO2 a 37 y cant o fethan byd-eang. Mae da byw hefyd yn dibynnu ar ddefnyddio dŵr ac yn cyfrannu at lygru dŵr trwy garthion ac ati. Bydd ateb y galw cynyddol am laeth a chig yn her fawr i lywodraethau, ffermwyr, diwydiannau amaethyddol, yr adwerthwyr ac i wyddonwyr yn y maes gan fod gwelliant sylweddol eisoes wedi’i gyflawni yn ystod y 1970au a’r 1980au.
Y cynnyrch gorau, llai o nwyon
Dim ond tair ffordd benodol sydd mewn gwirionedd i sicrhau bod y cynnyrch gorau ar gael yn y dyfodol tra hefyd yn lleihau allyriadau nwyon tŷ gwydr, sef:
(i) lleihau defnydd o laeth a chig mewn gwledydd datblygedig a chyfyngu cynnydd yn eu defnydd yn y gwledydd sy’n datblygu;
(ii) newid dulliau ffermio;
(iii) defnyddio technoleg newydd.
Mae poblogaethau gwledydd datblygedig, megis poblogaeth Prydain, yn bwyta tua 224g o gig y person y dydd o’i gymharu a 31g yn Affrica. Mae dadl gref dros ostwng hyn mewn gwledydd datblygedig gan sicrhau bod digon o laeth a chig ar gael ar draws y byd, gwella ein iechyd a lleihau allyriadau nwyon tŷ gwydr.
Byddai gostwng ymborth cig o 224g i 90g y person y dydd yn gostwng y tebygrwydd o ddatblygu clefyd y galon a chanser, yn enwedig canser y colon a’r rhefr. Wrth gwrs, ni fydd cynnig polisïau a deddfu er mwyn gostwng llaeth a chig yn hawdd nac yn boblogaidd, ac o’u gwneud byddai rhaid sicrhau strategaeth na fyddai’n effeithio’n andwyol ar economi amaethyddiaeth Prydain nac ychwaith yr economi fyd-eang.
Symud i systemau dwys?
Mae dadl gref hefyd y dylai Prydain newid i systemau dwys tebyg i systemau mannau bwydo, fel y ceir yn yr UDA ac yn gynyddol yn Brasil, Bolivia a Paraguay. Yn Mhrydain ceir ymgyrchoedd sylweddol tuag at ffermio llai dwys, am resymau moesegol fel mae’n digwydd, felly nid yw’r syniad o newid i systemau dwys yn cael ei ffafrio gan rai cwsmeriaid gan fod ffermio dwys yn cael ei gysylltu â ffermio ffatri. Yn wir, yn y systemau hyn, yn aml mae’r anifail yn cael ei gadw o dan do gyda llai o ryddid na phe bai allan yn pori.
Ym maes gwyddorau anifeiliaid rydym yn ceisio datblygu strategaethau gwreiddiol sy’n mynd i’r afael â’r sialensiau amaethyddol hyn.
Er mwyn gwneud hyn mae angen i ni gynyddu ein dealltwriaeth o gilgnowyr a’r ffactorau sy’n effeithio ar dwf, ansawdd ac ôl-troed amgylcheddol yr anifail wrth gynhyrchu llaeth a chig. Mae’r erthygl lawn yn canolbwyntio ar ddatblygu strategaethau gwyddonol newydd, yn seiliedig ar gynyddu ein dealltwriaeth o gilgnowyr, er mwyn sicrhau diogelwch llaeth a chig.
Mae gan gilgnowyr bedair siambr i’w stumog, sef y reticwlwm, y rwmen, yr abomaswm a’r omaswm ac mae’r eplesu microbaidd sy’n digwydd yn y rwmen yn diffinio rhan helaeth o dwf yr anifail, ansawdd y cynnyrch a swm yr allyriadau nwyon tŷ gwydr. Wrth i borthiant gyrraedd y rwmen mae micro-organebau’r rwmen yn diraddio wal y planhigyn ac yn metaboleiddio’r maetholion yng nghelloedd y planhigyn, gan gynnwys asidau amino a phroteinau i greu proteinau unigryw.
I sicrhau bod llaeth a chig o’r ansawdd gorau ar gael (gyda chyn lleied a phosibl o allyriadau nwyon tŷ gwydr) yn y dyfodol, mae’n gwbl angenrheidiol ein bod yn gwella ein dealltwriaeth o’r adwaith rhwng y planhigyn a’r micro-organebau, a hynny trwy ddefnyddio egwyddorion bioleg systemau a thechnoleg metagenomeg, metatransgriptomeg, metaproteomeg, a metabolomeg.
Mae modd darllen yr erthygl wreiddiol, lawnach yn Gwerddon yma.