Y llyfr dw i ar ganol ei ddarllen

Merch y Gwyllt gan Bethan Gwanas. Ro’n i mor hapus i weld y dilyniant hwn i’r nofel fendigedig, Gwrach y Gwyllt. Stori ardderchog, cymeriadau gwych, hiwmor, tyndra, popeth. Yn ystod cyfnod y coronafeirws dw i wedi mwynhau dianc i fyd llyfr ‘teimlo’n dda’. Mae hwn yn berffaith.

Y llyfr a newidiodd fy mywyd