Mae actor sy’n canu mewn band roc yn falch iawn o’r cyfle i fod yn rhan o “rhywbeth arbennig” yn y Steddfod ym Moduan…

Mae yna sawl peth mae rhywun yn ei gysylltu gyda Maes B – cerddoriaeth, cwrw, camfihafio, caru… ond tydi drama ddim yn un ohonyn nhw.

Newidiodd hynny ym Moduan wrth i gynhyrchiad Popeth ar y Ddaear gael ei berfformio ym Maes B, a dyma’r ddrama gyntaf erioed yn y maes ieuenctid sy’n gartref i gigs y Steddfod ers 1997.