Bu Dafydd Wigley yn cynrychioli’r Cymry yn San Steffan ers 1974, ac wrth i’w yrfa dynnu tua’r terfyn, Catrin Lewis fu’n ei holi…

Eleni mae Dafydd Wigley yn dathlu carreg filltir go arbennig, a hithau yn hanner canrif ers iddo gychwyn gwleidydda yn San Steffan, yn Nhŷ’r Cyffredin i ddechrau, ac yna yn Nhŷ’r Arglwyddi.

Yn wreiddiol fe gafodd ei ethol yn Aelod Seneddol dros Gaernarfon adeg yr etholiad cyffredinol ym mis Chwefror 1974, ond roedd yn ymhél â gwleidyddiaeth cyn hynny ac wedi dod yn gynghorydd Plaid Cymru ym Merthyr Tudful yn 1972.

Bu yn gwasanaethu pobol Arfon ac yn eu cynrychioli yn Nhŷ’r Cyffredin hyd at 2001, ac yn eu cynrychioli yn y Cynulliad Cenedlaethol fel ag yr oedd ar y pryd rhwng 1999 a 2003.

Fe gafodd ei ethol i arwain Plaid Cymru ar ddau achlysur gwahanol, yn 1981 a 1991, ac mae yn cael ei ystyried yn un o’r hoelion wyth.

Daeth yn aelod o Dŷ’r Arglwyddi yn 2011, a bellach yn 81 oed mae ei yrfa wleidyddol hirfaith ar fin dod i ben. Bydd yn parhau gyda’i waith am ychydig fisoedd eto cyn ymddeol, a hynny er mwyn helpu ei olynydd, Carmen Smith, i ddod yn gyfarwydd gyda Thŷ’r Arglwyddi.

A hithau ond yn 28 oed, bydd y ferch o Fôn yn sicr o elwa ar brofiad y dyn wnaeth arwain Plaid Cymru i’w canlyniad gorau erioed mewn etholiad Cynulliad/Senedd, pan enillon nhw 17 o seddi a 28.4% o’r bleidlais yn 1999.

Yn ddweddar bu Golwg yn sgwrsio gyda Dafydd Wigley am ei yrfa ddisglair.

Pan gafodd ei ethol i gynrychioli pobol Arfon a Chymru yn San Steffan nôl ym mis Chwefror 1974, doedd o heb ragweld y byddai’n treulio degawdau yno.

“Bryd hynny roedd yna fomentwm mawr gyda Phlaid a gyda’r SNP,” meddai.

“Roedd yna adroddiad comisiwn brenhinol wedi argymell senedd ddeddfwriaethol i’r Alban ac i Gymru.

“Roedden ni’n rhagweld byddai hynny’n digwydd yn ystod y 1970au ac felly roeddwn i’n mynd i San Steffan, disgwyl bod yno rhyw bum mlynedd ac wedyn yn disgwyl bydden ni’n cael mynd i’n Senedd ein hunain yng Nghaerdydd.

“Yn anffodus, fe osodwyd refferendwm ar y cynllun i gael datganoli i’r Alban ac i Gymru.

“Yng Nghymru fe ddaru ni golli’n ddrwg, dim ond 20% o bleidleiswyr oedd yn cefnogi datganoli.

“Felly, roedd yr hyn a ddigwyddodd yn sgil [refferendwm] 1979 braidd yn wahanol i beth oedden ni wedi disgwyl yn 1974.”

Llais i Gymru yn Nhŷ’r Arglwyddi

Hyd at ddiwedd 2006, roedd polisi Plaid Cymru yn nodi y bydden nhw’n gwrthod rhoi eu henwau gerbron Tŷ’r Arglwyddi gan nad yw’n siambr etholedig.

“Y rheswm ddaru ni newid yn 2006 oedd oherwydd bod yna fesur roedd y Llywodraeth Lafur wedi gwthio trwodd oedd yn rhoi hawl am y tro cyntaf i’r Cynulliad, fel yr oedd y bryd hynny, i ddeddfu mewn materion wedi datganoli,” eglura Dafydd Wigley.

“Ond roedd yn rhaid i Dŷ’r Cyffredin a Thŷ’r Arglwyddi bleidleisio ar bob cais unigol i roi caniatâd i Senedd Cymru i ddeddfu ar faterion oedd wedi datganoli.

“Hynny yw, roedd Senedd anetholedig San Steffan y gallu blocio dymuniad llywodraeth etholedig Cymru i ddeddfu mewn meysydd wedi datganoli.”

Wedi i’r Blaid newid eu polisi, cawson nhw addewid gan y Llywodraeth Lafur yn San Steffan y bydden nhw’n cael tair sedd yn Nhŷ’r Arglwyddi er mwyn adlewyrchu eu nerth yn Nhŷ’r Cyffredin.

“Digwyddodd o ddim oherwydd ddaru Gordon Brown, y Prif Weinidog Llafur oedd newydd ddod i mewn, ei flocio fo,” meddai.

“Ei eiriau o oedd: ‘Over my dead body does any nationalist get appointed to that chamber.’

“Felly roedd hi’n 2010, ar ôl i Lafur fynd allan, pan gafodd y Blaid gyfle i gael llais yno.”

Yn ôl Dafydd Wigley mae’r Blaid mewn sefyllfa nawr ble nad oes yr un aelod yn credu yng nghefndir cyfansoddiadol Tŷ’r Arglwyddi.

“Does ddim modd ar wyneb y ddaear cyfiawnhau siambr mewn unrhyw wlad ddemocrataidd sydd heb gael ei hethol,” meddai.

Ond mae’r Blaid hefyd yn cydnabod, tra bod y siambr yn bodoli, bod yn rhaid sicrhau llais i Gymru yno.

“Felly dw i’n croesawu’r ffaith bod Carmen Smith yn dod yma,” meddai.

“Mae Elfyn Llwyd hefyd wedi cael ei ethol ac fe ddylen ni gael gwneud i fyny i’r tri oedd wedi eu haddo yma.

“Dw i’n gobeithio caf weld hynny ac wedyn dw i’n edrych ymlaen at gael ymddeol fy hun pan fydd gennym ni dîm arall yma.”

Cyfleoedd i’r ifanc “ar bob cyfrif”

Carmen Smith, olynydd Dafydd Wigley yn Nhŷ’r Arglwyddi, yw’r aelod ieuengaf yno.

Ac mae’r hen ben yn bendant ei bod yn hynod bwysig sicrhau llais i bobol ifanc mewn gwleidyddiaeth “ar bob cyfrif”.

“Pan ges i’n ethol yn 1974 roedd Dafydd Elis-Thomas [AS Meirionnydd ar y pryd] yn 27 oed a minnau’n 30 oed,” meddai.

“Ni oedd ymhlith yr ieuengaf yn Nhŷ’r Cyffredin bryd hynny.

“Yn yr etholiad ddaru ni ennill, y rhai oedd wedi gweithio’n galed yn curo drysau yn y gwynt a’r glaw oedd heidiau o bobol ifanc.

“Os ydach chi’n blaid radical sydd eisiau newid pethau, yna pobol ifanc ydy’r bobol fydd yn dod efo chi.”

Y cynllun gwreiddiol oedd ymddeol yn 80 oed, ond mae bellach yn 81 a dal wrthi eto am blwc.

“Yr hyn sydd wedi newid ers hynny ydi’r ffaith bod Carmen Smith wedi dod i mewn a dw i’n meddwl, er tegwch iddi hi, y dylwn i fod yn parhau am gyfnod o rai misoedd i fod o gwmpas i’w helpu hi i setlo lawr,” eglura.

“Wedyn yn sgil hynny, ar ryw bwynt, byddaf yn ymddeol.”

Mae Liz Saville-Roberts, arweinydd y Blaid yn Nhŷ’r Cyffredin, hefyd wedi gofyn iddo ddal ati hyd nes yr Etholiad Cyffredinol, er mwyn helpu pontio’r newidiadau gwleidyddol sydd ar y gweill, megis newid y ffiniau etholaethol a dyfodiad llywodraeth newydd.

Nid yw yn syndod bod Liz Saville-Roberts yn awyddus i elwa o brofiad di-ben-draw Dafydd Wigley, ond mae’r dyn ei hun am weld gwaed newydd yn cael cyfle.

“Mae yna leisiau ifanc, iau na fi, a phobol efo profiad o fewn y Blaid gall gymryd fy lle i’n fan hyn,” meddai.

“Dw i’n credu ei bod hi’n bwysig ein bod ni’n cael llais yma – ond mae eisiau lleisiau newydd, rhai iau efallai.

“Dyna sy’n fendigedig am Carmen yn dod i mewn.

“Mae hi’n un eithriadol o ifanc a hi bydd yr ieuengaf yn Nhŷ’r Arglwyddi.

“Dw i’n gobeithio’n fawr y ceith hi chwarae teg yma ac y bydd hi’n gwneud ei marc.”

Glynu at bolisi Plaid

Un o’r newidiadau sydd ar droed ym Mae Caerdydd, ac un mae’r gwleidydd yn anghytuno gydag ef, yw’r bwriad i droi at system rhestr gaeedig ar gyfer ethol 96 o Aelodau o Senedd Cymru. Mae Plaid Cymru wedi cytuno gyda Llafur ar gyflwyno’r drefn hon – yn groes i ddymuniad Dafydd Wigley.

“Dw i’n teimlo’n gryf y dylem ni lynu at ein polisi ni fel Plaid,” meddai.

“Y polisi sydd wedi ei basio yn ein cynhadledd ni ydy ein bod ni’n cefnogi’r bleidlais drosglwyddadwy, debyg i’r system sy’n cael ei weithredu yng Ngweriniaeth Iwerddon ble mae pobol yn cael pleidleisio dros y blaid a dros unigolyn o fewn y blaid.

“Y polisi sydd yn cael ei wthio arnom ni gan Lywodraeth Lafur Cymru ydy na fydd yr etholwyr yn cael dewis yr unigolyn, dim ond pleidleisio i’r blaid.

“Bydd swyddogion y blaid, mewn pa bynnag ffordd maen nhw’n dewis gwneud hynny, yn penderfynu pwy sy’n cael llenwi’r llefydd maen nhw’n eu hennill mewn etholiad.

“I fi, mae hynny’n gyfan gwbl annerbyniol. Dw i’n teimlo ei bod hi’n eithriadol o bwysig bod yna gysylltiad rhwng yr etholaeth a’r unigolion sydd wedi cael eu hethol i gynrychioli’r etholaethau hynny.

“Dw i’n credu dylai’r Blaid fynnu ein bod ni’n cadw at ein polisi ein hunain.”

Yr economi, y Gymraeg a Thryweryn

O’r holl frwydrau mae Dafydd Wigley wedi ymwneud â nhw ar hyd y degawdau, dywed mai “y peth pwysicaf oll” oedd ennill refferendwm datganoli 1997 a sicrhau bod ganddo ni Senedd ar dir Cymru yn atebol i bobol Cymru.

Yna eglura bod tri pheth wedi ei ddenu i ymhél â gwleidyddiaeth.

“Y peth cyntaf oedd sefyllfa echrydus economi Cymru,” meddai.

“Roedd o’n gyfnod pan oedd Prif Weinidog Torïaidd, Harold Macmillan, yn dweud: ‘You’ve never had it so good.’ [Mewn araith yn 1957].

“Doedd hynny ddim yn wir o gwbl yng Ngwynedd a ledled Cymru.

“Roedd yr hen ddiwydiannau fel y chwareli yn cael eu rhedeg i’r llawr a dw i’n cofio gorymdaith chwarelwyr Dyffryn Nantlle yn mynd heibio’n cartref ni ym Montnewydd.

“Roedd hynny’n tanio teimlad bod pobol Arfon, Gwynedd a Chymru ddim yn cael chwarae teg ac roedd hynny’n taro pobol ifanc yn arbennig.”

Yr ail beth oedd y diffyg statws i’r iaith Gymraeg, a’r trydydd ffactor oedd boddi Tryweryn.

“Roedd hynny yn tanio ein cenhedlaeth ni, bod dinas fel Lerpwl yn gallu cerdded i mewn i Gymru, boddi cwm, taflu’r ffermwyr a thrigolion eraill allan a boddi’r lle er mwyn gwerthu’r dŵr a’r elw i ddiwydiant yng nglannau Merswy.

“Roedd pob Aelod Seneddol o Gymru namyn un wedi pleidleisio yn erbyn hynny ond eto roedd y peth yn mynd ymlaen.”

Un o uchafbwyntiau ei yrfa oedd sicrhau iawndal i’r chwarelwyr oedd wedi dioddef iechyd gwael a chael trafferthion anadlu oherwydd llwch y chwareli.

“Roedd y glowyr yn cael iawndal ond doedd y chwarelwyr ddim,” eglura.

Ymgyrch drawsbleidiol lwyddodd i sicrhau’r iawndal yn 1979, ond trigolion yn etholaethau Dafydd Wigley a Dafydd Elis-Thomas oedd wedi dioddef fwyaf gan fod cynifer o chwarelwyr yn byw yno.

Hefyd bu ennill y frwydr tros sefydlu S4C yn 1982 yn bwysig i Gymru a’r iaith ac o fewn ei etholaeth ei hun.

“Cafodd nifer o gwmnïau ffilmio a theledu eu sefydlu yn Arfon, yn arbennig ochrau Caernarfon,” meddai.

“Roedd hynny’n bwysig iawn o safbwynt cyflogaeth yn yr ardal.”

Economi Cymru wedi “symud yn ôl”

Cyn gwleidydda, bu Dafydd Wigley yn gweithio i gwmni moduron Ford, ac yna’n Bennaeth Cyllid ffatri Hoover ym Merthyr Tydfil oedd yn cyflogi dros 5,000 o bobol ar ddechrau’r 1970au.

“Roedd fy nghefndir i ym myd yr economi a dyna ydy’r maes dw i’n teimlo ein bod ni wedi gwneud y lleiaf o gynnydd, ac ar adegau, wedi symud yn ôl,” meddai.

“Er enghraifft, roedd Rhodri Morgan wedi dewis diddymu corff o’r enw Awdurdod Datblygu Cymru.

“Roedd hwnnw’n gwneud gwaith da yn creu unedau datblygu busnes yng Nghymru ac roedd ei chwalu fo’n warthus ac yn gam gwag ar y naw.

“Does dim byd effeithiol wedi cymryd lle hwnnw eto.

“Beth fyswn i’n licio gweld byddai Llywodraeth Cymru yn cymryd cyfrifoldeb, nid jyst ar gyfer addysgu pobol ifanc Cymru, ond hefyd i geisio sicrhau eu bod nhw’n gallu cael gwaith yng Nghymru.”

Mae yn grediniol, er mwyn i Gymru ffynnu, bod angen ymdrechu yn galetach i ddenu talent ifanc yn ôl i’r wlad.

“Mae gan lawer ohonyn nhw’r profiad o fod wedi gweithio i ffwrdd a bydden nhw’n gallu dod â’r sgiliau yna yn ôl er mwyn helpu hybu economi Cymru.”