Mae papur newydd The Guardian yn rhagori ar gyhoeddi stori sy’n dangos maint braint y Teulu Brenhinol, ac mae’r ddiweddaraf ganddyn nhw yn ymwneud â ffermio yng Nghymru.

Chwi gofiwch y gorchymyn enwog yn nofel Animal Farm George Orwell – “All animals are equal, but some animals are more equal than others”… wel, dyna yn union fel y mae hi lawr ar fuarthau ffermydd ein gwlad.