Er gwaetha’ agwedd gadarnhaol Prif Weithredwr newydd y Llyfrgell Genedlaethol, mae swyddog yr undeb sy’n cynrychioli’r gweithwyr yno’n dweud ei bod hi’n “argyfwng”.

Yn dilyn cynnal proses ymadael yn wirfoddol, mae 24 aelod o staff y Llyfrgell wedi mynd oherwydd toriadau’r Llywodraeth i 10.5% o’r gyllideb. Daeth y newyddion yr wythnos yma fod 90 allan o 800 o staff yn Amgueddfa Cymru yn mynd i fod yn ymadael yn gynnar â’r sefydliad hwnnw am yr un rheswm.