Yn nofel grafog Geraint Lewis, mae dau hen gyfaill sydd wedi byw bywydau helbulus yn mynd ar stake-out yn Ynys Môn…

Ar y wyneb, yr hyn sy’n digwydd yn nofel newydd Geraint Lewis, Haydn a Rhys, yw bod dau gyfaill yn eu 70au yn mynd i aros mewn carafán yn Sir Fôn i geisio datrys dirgelwch.