Portread o Eiry Price
Mae soprano o’r gogledd newydd orffen ei thaith gyntaf yn perfformio mewn opera broffesiynol.
Eiry Price sydd wedi bod yn canu rhan ‘Iarlles Ceprano’ yng nghynhyrchiad Opera Cenedlaethol Cymru (WNO) o Rigoletto yn ddiweddar.
Mae’r ferch o Landdeiniolen ger Caernarfon yn rhan o raglen ‘Artistiaid Cyswllt’ y WNO am y flwyddyn nesaf.