Y llyfr dw i ar ganol ei ddarllen

Meirw Byw, nofel gyntaf Rolant Tomos. Prynais y nofel hon yn siop Inc yn Aberystwyth yn ddiweddar. Mae’r broliant yn swnio’n addawol iawn, sef ‘Nofel ffantasi antur sy’n mynd a chi i rodio yng nglyn cysgod angau…’ Dw i newydd ddechrau ei darllen, ac mae’n wirioneddol afaelgar. Os ydych chi, fel fi, am wybod pam fod Tecwyn yn trio defnyddio llif gron i dorri trwy ddrws y mans i gyrraedd at y gweinidog, hon yw’r nofel i chi.