Annwyl Rhian,

Dwi’n disgwyl babi ymhen deufis ac wedi bod yn edrych ymlaen at y profiad. Fy mhartner oedd yn awyddus i ni drio am fabi, er fy mod i eisiau aros nes ein bod ni wedi priodi. Mae o wastad wedi bod eisiau plant. Felly dychmygwch fy sioc pan wnaeth o ddatgan wythnos ddiwetha’ ei fod o nid yn unig ddim am fod yno i ddal fy llaw yn ystod yr enedigaeth, ond nad oedd o eisiau bod yn yr ystafell!