Beth oedd eich ymateb pan wnaethoch chi ddarganfod bod Donald Trump wedi ennill arlywyddiaeth yr Unol Daleithiau America eto?
Gallwn gwestiynu pam yr ydym yn cymryd gymaint o ddiddordeb yng ngwleidyddiaeth y wlad estron hon. Dwi’n cydnabod bod America yn achos arbennig gan fod ganddi bŵer meddal: yn ogystal ag Americana teledu, ffilmiau a cherddoriaeth; Saesneg yw prif iaith y rhyngrwyd ac mae ei phrif gwmnïau yn Americanaidd.