Dyma lun anhygoel o Lewyrch yr Arth/yr Aurora Borealis dros gastell Caernarfon, pan fu sioe arbennig o’r goleuadau rhyfeddol yma drwy Gymru’r wythnos diwethaf. “Dw i wedi bod yn ddigon ffodus i fynd ar ôl yr Aurora yng Ngwlad yr Iâ a Norwy ond does dim byd yn curo ei weld yn eich ardal leol,” meddai’r ffotograffydd Marc Clack, sy’n byw ym mhentref Waunfawr ger Caernarfon. “Mae’n noson na fyddaf byth yn ei anghofio.”