Mae un o’r brodyr Brigyn wedi bod yn cydweithio ar ganeuon pop gyda Gai Toms, Tara Bandito a’r Prifardd Rhys Iorwerth…

Ers chwarter canrif a mwy bu’r cerddor a’r cyfansoddwr Ynyr Roberts yn weithgar iawn ar y Sîn Roc Gymraeg (SRG), yn aelod blaenllaw o’r bandiau Brigyn ac Epitaff gynt.

Ond yn y ddwy flynedd ddiwetha’ mae wedi ymgymryd ag antur newydd sbon gyda’i brosiect pop arbrofol Popeth.