Daeth y Blaid Lafur Brydeinig ynghyd ar gyfer eu cynhadledd yn Lerpwl yr wythnos hon, ac mae Rhys Owen wedi bod yn codi sawl cwestiwn pigog gyda Jo Stevens, Ysgrifennydd Gwladol Cymru yng nghabinet Keir Starmer…

Bu’r wythnos yn arwain at gynhadledd y Blaid Lafur yn Lerpwl yn un anodd i’r Prif Weinidog Syr Keir Starmer.

Ar bapur, ddylai’r foment hon fod yn gyfle i ddathlu Llywodraeth newydd Lafur yn San Steffan am y tro cyntaf ers 2010.