Mae Angharad Elen yn credu y bydd OLION, cynhyrchiad mawr diweddaraf cwmni’r Frân Wen, yn rhoi “balchder” yn ôl i ddinas Bangor…

Fe fydd y cynhyrchiad mawreddog OLION ym Mangor ddiwedd Medi yn cynnwys cast o gannoedd, yn digwydd mewn tair rhan, yn cyfuno theatr lwyfan, theatr awyr agored, a ffilm.

Rhan I yw drama lwyfan dwy act, ‘Arianrhod’, yng nghanolfan Pontio rhwng 20-28 Medi.