Wrth i gynghorau sir gyfyngu ar lefydd i gŵn gael rhedeg yn rhydd, mae dynes o’r gogledd wedi agor parc penodol i’r pawennog…

Mae cŵn mawr a bach, o Wolfhounds i Dachshunds, yn cael rhyddid i grwydro mewn llecyn dwy acer ar Ynys Môn.

Agorodd parc cŵn Pawen Lawen ym mhentref Niwbwrch ddechrau fis Ebrill, a gall perchnogion cŵn archebu slotiau i’w hanifeiliaid anwes gael rhedeg o gwmpas neu gerdded drwy’r caeau.