Portread o Neville Eden

Rhybudd cynnwys: Mae’r erthygl hon yn trafod pynciau a allai beri pryder.

Ers symud i ogledd Cymru, mae peiriannydd o Swydd Nottingham wedi dysgu’r Gymraeg, annog eraill i ddefnyddio’r iaith, dod yn gynghorydd tref a dechrau gwirfoddoli gydag elusen atal hunanladdiad.

Symudodd Neville Eden, sy’n 64 oed, a’i wraig, Thelma, i Abergele ger y Rhyl saith mlynedd yn ôl, wedi cyfnod yn Swydd Gaer.