Sut fyddai’r cariad at y Gymraeg yn wahanol pe bai’r tir o dan draed yn newid?
Dyna un o gwestiynau Sioned Erin Hughes, yr awdures wnaeth ennill y Fedal Ryddiaith yn Eisteddfod Genedlaethol 2022, wrth fynd ati i glywed am brofiadau teuluoedd sy’n siarad yr iaith ym mhedwar ban byd.
Mae Iaith Heb Ffiniau yn gasgliad o brofiadau Cymry sy’n cadw’r Gymraeg yn fyw ar yr aelwydydd o Washington i’r Swistir ac o Fontreal i Seland Newydd, ac yn trosglwyddo’r iaith i’w plant.