Portread o Susan Dennis-Gabriel

Mae Arweinydd Cymru a’r Byd Eisteddfod Genedlaethol Rhondda Cynon Taf yn gantores opera sydd wedi bod yn byw yn Fienna ers dros ddeugain mlynedd.

Cyn setlo yn Awstria, bu Susan Dennis-Gabriel yn teithio â chwmnïau opera megis Opera Cenedlaethol Cymru a’r Kent Opera.

Gweithiodd fel unawdydd proffesiynol yno am flynyddoedd wedyn, gan berfformio mewn neuadd cyngerdd enwog fel y Musikverein yn Fienna.