Tegwen Bruce-Deans, a gafodd ei geni yn Llundain a’i magu yn Llandrindod ym Mhowys, ddaeth i’r brig yng nghystadleuaeth y Goron eleni gyda’i stori fer ‘Coch’.
Dywedodd y beirniaid, Elin Llwyd Morgan a Caryl Lewis, mai ei stori fer fuddugol oedd “darn mwyaf caboledig a soffistigedig” y gystadleuaeth.