Mae’r Urdd wedi dechrau partneriaeth newydd gyda Choleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru sydd yn disodli Ysgoloriaeth Bryn Terfel.

Ar ddydd Sadwrn olaf Eisteddfod yr Urdd cafodd chwech o berfformwyr ifanc rhwng 18 a 25 eu dewis o blith y cystadlaethau i unigolion o dan 25 i fod yn ‘Llysgenhadon Diwylliannol Rhyngwladol Ifanc yr Urdd a Choleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru’. Roedden nhw wedi eu dethol gan dîm o feirniaid sy’n cynrychioli’r ddau sefydliad.