Portread o Will Williams 

Mae pensiynwr o Sir Fôn sydd yr un sbit ag un o gymeriadau rhaglen deledu boblogaidd wedi codi miloedd ar filoedd o bunnau at achosion da.

Diolch i’w debygrwydd i’r actor Ricky Tomlinson, sy’n actio ‘Jim Royle’ yn The Royle Family, mae Will Williams o’r Fali ger Caergybi wedi bod yn gwneud ymddangosiadau elusennol ers dros bymtheng mlynedd.