Ym Mhen Llŷn mae yna dŷ potas sy’n cael ei redeg gan “griw ffantastig, criw gweithgar, criw gwladgarol ac mae wastad croeso”…

Mae tafarn gymunedol hynaf Ewrop wedi bod yn grud i gerddorion ers y dechrau’n deg.

Ac eleni fe gafodd y Fic yn Llithfaen, pentref bychan ger Nant Gwrtheyrn ym Mhen Llŷn, ei henwi’n Dafarn Orau Cymru gan y Gynghrair Gefn Gwlad.