Y llyfr dw i ar ganol ei ddarllen
Fel ffan mwyaf y rhaglen Friends, a ffan mawr o hunangofiannau, roedd yn rhaid i mi ddarllen Friends, Lovers and the Big Terrible Thing gan y diweddar Matthew Perry. Dw i heb wneud dent iawn ynddo fo eto, yn rhannol oherwydd fy mod i wedi bod yng nghanol cyfnod arholiadau, ond hefyd oherwydd fy mod i’n dueddol o ddarllen cyn cysgu a tydi o ddim yn ddeunydd suo o gwbl! Wedi dweud hynny, o’r hyn dw i wedi’i ddarllen, mae o’n llwyddo i drafod y dwys a’r doniol mewn ffordd unigryw wrth iddo adrodd hanes ei lwyddiant yn Hollywood yn erbyn cefndir trist ei ddibyniaeth ar gyffuriau.
Y llyfr a newidiodd fy mywyd
Heb os nac oni bai, Mynd gan Marged Tudur. Cyfrol o farddoniaeth sydd ganddi, yn ymwneud â’i hymateb i farwolaeth annhymig ei brawd, Dafydd. Mae yna ffasiwn rym yn y cerddi yna – maen nhw’n gwneud i chdi stopio’n stond, maen nhw’n dy ddal di ac yn dy dynnu di mewn. Alli di ddim peidio â theimlo’n un â hi. Mae hi’n un o’n beirdd gora’ ni yng Nghymru, hands down, a dw i’n grediniol y dylai PAWB ddarllen y gyfrol yma.
Y llyfr a ddylanwadodd fwyaf arnaf
Mae’n anodd dewis un llyfr i hwn, ond dim ond un ateb sydd o ran awdur, achos mae’r awdur yma yn dylanwadu arna i bob dydd: Lleucu Roberts – a dw i ddim jyst yn deud hynna am ei bod hi’n fam i fi!
Dw i wrth fy modd efo’i chyfrolau diweddaraf; Hannah-Jane ac Y Stori Orau – wedi beichio crio efo’r ddwy ohonyn nhw – ond pe bai’n rhaid i fi ddewis fy hoff gyfrol, fysa’n rhaid i mi ddweud Saith Oes Efa. Mae’n gyfrol wreiddiol a chlyfar sy’n darlunio profiadau merched mewn ffordd ddirdynnol a gonest.
Dw i mor lwcus i fod yn ferch i ddynes sydd mor dalentog ac mor bang on am bob dim. Mae hi’n gymaint o CHICA a dw i mor eithriadol o falch ohoni (a dw i’n gwybod cymaint fysa hi’n casáu hyn achos mae hi’n ridicilous o ddiymhongar!)
Y llyfr sy’n hel llwch
Mae yna dipyn o lyfrau yn hel llwch ers i fi fod yn astudio Cymraeg, ond mae yna rai dw i wedi troi’n ôl atyn nhw dro ar ôl tro dros y blynyddoedd fel Aelwyd F’Ewythr Robert, cyfieithiad Gwilym Hiraethog o Uncle Tom’s Cabin, Monica gan Saunders Lewis, ac I Ble’r Aeth Haul y Bore? gan Eirug Wyn. Ond wedi astudio Un Nos Ola Leuad gan Caradog Prichard ar gyfer Lefel A, mi wnes i fwynhau cymaint es i ymlaen i wneud dadansoddiad seicdreiddiol ohono yn fy ngradd israddedig ynghyd â dadansoddiad seicoddaearyddol ar gyfer fy MPhil, Gwehilion o Boblach: Cynrychioli Lleiafrifoedd mewn Llenyddiaeth Gymraeg.
Llyfr yr hoffwn fod wedi’i ddarllen, ond heb wneud
Fyswn i wrth fy modd yn darllen On the Red Hill gan Mike Parker. Mi fyddai wedi bod yn ddiddorol iawn i’w gynnwys yn fy MPhil o safbwynt hanes cyfunrhywiaeth a’r datblygiad yn agwedd cymdeithas tuag at y gymuned cwiar yng Nghymru. Yn anffodus, ni gyhoeddwyd y gyfrol nes ar ôl i mi gwblhau fy ymchwil, ond yn sicr dyma’r llyfr nesaf ar fy rhestr!
Y llyfr dw i’n troi ato mewn cyfyng gyngor
Yn bendant, y llyfr dw i’n troi ato gan amlaf ar hyn o bryd yw Oxford Handbook of Genitourinary Medicine, HIV, and Sexual Health gan Mitchell et al. Yn ddiweddar, fel rhan o’m gradd feddygol, dw i wedi creu platfform addysg rhyw o’r enw SECS ar y cyfryngau cymdeithasol. Amcan y cyfrif ydi rhannu ffeithiau ac addysgu am iechyd rhyw drwy gyfrwng y Gymraeg mewn ffordd sy’n apelio at bobl ifanc (ond ddim jyst pobl ifanc – tydi pobl byth rhy hen i ddysgu!)
Y llyfr sy wastad yn codi gwên
Mae Sgen i’m Syniad: Snogs, Secs, Sens gan hogan ddewr a sasi o’r enw Gwenllian Ellis yn cynnwys casgliad o hanesion ei bywyd. Dw i’n meddwl fysa llawer o genod, yn enwedig genod ein cenhedlaeth ni, yn gallu uniaethu â rhai o’i phrofiadau yn y gyfrol. Tydi’r llyfr ddim yn ymdrin â rhyw yn unig – ac i’r rhai ohonoch sydd angen clywed hyn, fysa yna ddim byd o’i le ar hynny beth bynnag – mae hefyd yn sylwebaeth ar gymdeithas, mae’n ymdrin â rhagfarn, cyfeillgarwch, camdriniaeth, a’r ymdeimlad o berthyn. Dw i’n meddwl bod yna rai pobl yn rhy barod i ddiystyru cyfrolau fel hyn, i roi label chick-lit bychanol arnyn nhw. Ond y gwir amdani ydi fod hwn yn llyfr pwysig, ddim jyst i genod ifanc, ond genod hŷn a hogia a dynion a phawb fel ei gilydd.
Llyfr i’w roi yn anrheg
Mae Rhyngom gan Sioned Erin Hughes yn llyfr dw i wedi’i brynu’n anrheg i rywun a dw i’n gwybod fel ffaith ei fod o wedi cael ei werthfawrogi! Mae’n gyfrol o ymsonau celfydd sy’n taro tant o’r dudalen gynta’ – a heads up, os tyda chi heb ei darllen hi eto, mi fyddwch chi’n crio, iawn?! Mi wnes i wirioneddol fwynhau’r addasiadau i’r llwyfan gan Theatr Genedlaethol Cymru yn Eisteddfod Boduan hefyd – arbennig!
Mae’n rhaid i fi roi special mention fama i The Body gan Bill Bryson hefyd. Mae hwn yn glamp o lyfr ond mae o MOR ddiddorol. Mae’n trafod ffeithiau difyr am y corff ac am feddygaeth mewn ffordd syml a dealladwy a dw i’n meddwl fysa fo’n gneud anrheg gwych i bawb!
Fy mhleser (darllen) euog
I ddechra’, let’s get this straight, dw i ddim yn teimlo’n euog am hyn o gwbl – cyfres Harry Potter gan JK Rowling. Weithia’, ar ddiwedd diwrnod hir o waith, mi’r wyt ti angen ymlacio efo nofel ysgafn, gysurlon lle ti’n gwybod yn union be’ sy’ am ddigwydd nesa’. Wnes i ddim eu darllen nhw’n blentyn – ar wahân i addasiad Cymraeg Emily Huws o’r cyntaf (big up Maen yr Athronydd) – ond oherwydd fy mod i’n gwylio’r ffilmiau bob Calan Gaea’, mae wedi bod mor lyfli a nostalgic i’w darllen nhw’n oedolyn.
Y llyfr yr hoffwn ei sgrifennu un diwrnod
Does dim amheuaeth fod y dylanwadau uchod wedi f’ysbrydoli i sgrifennu’n greadigol. Wedi deud hynny, dw i ond yn gallu gwneud hynny yn Notes fy ffôn ar hyn o bryd lle does yna neb yn gallu eu gweld nhw! Felly, mae’n fwy na thebyg mai rhywbeth ffeithiol fuaswn i’n ei sgrifennu, yn ymwneud ag addysg neu iechyd rhyw siŵr o fod, ’nabod fi – a God knows mae angen mwy o stwff fel yna yn Gymraeg!
Ffraid Gwenllian
Bu yn gyfieithydd am gyfnod cyn mynd ati i astudio cwrs meddygaeth sy’n para chwe blynedd, ac mi fydd yn graddio ym mis Gorffennaf ac mae ei bryd ar fod yn Feddyg Teulu.
Hefyd mae hi wedi cyflwyno fideos ar wasanaeth Hansh S4C yn trafod addysg rhyw, gan gynnwys ymweld â digwyddiadau cymdeithasol prifysgolion Cymru’n profi gwybodaeth myfyrwyr y wlad.