Ieithydd o dde Lloegr a ddysgodd siarad Cymraeg yn oedolyn sy’n gyfrifol am gynnal a chadw rhestr o enwau lleoedd hanesyddol Cymru.
Mae Dr James January-McCann, gafodd ei fagu yn Portsmouth, yn rhugl yn y Gymraeg a’r Wyddeleg, ac yn medru Gaeleg yr Alban hefyd.
Daeth i Brifysgol Aberystwyth i gwblhau gradd mewn Astudiaethau Celtaidd yn 2005, a bellach mae’n gweithio i Gomisiwn Henebion Brenhinol Cymru yn Swyddog Enwau Lleoedd.