Teg dweud bod Gohebydd Diwylliant newydd BBC Cymru yn trwytho’i hun yn llwyr yn y celfyddydau.

A hithau wedi’i magu ar aelwyd gelfyddydol yn Abergele yn Sir Conwy, mae Lorna Prichard yn gwirioni ar yr opera fyth ers i’w mam gyflwyno’r grefft iddi.

Ac yn fwy diweddar, mae’r ferch sy’n cyflwyno podlediad ar gyfer Opera Cenedlaethol Cymru, wedi troi ei llaw at gomedi stand-yp hefyd.