Portread o Sera Cracroft 

Fe wnaeth un o selogion Pobol y Cwm argraff gyda’i haraith yn y rali YesCymru ddiweddaraf.

Oni bai am anerchiad mewn ffair yn Llansannan tua thrideg mlynedd yn ôl, doedd Sera Cracroft erioed wedi rhoi araith fel yr un roddodd ym Mangor ym mis Medi.

Mae’r actores, gafodd ei magu ym mhentref bychan Rhyd-y-foel ger Abergele, wedi bod yn wyneb cyfarwydd yng Nghwm Deri ers 1989.