Mae gan Gymru dros 400 o gylchoedd meithrin, ond un o rai Ceredigion wnaeth serennu mewn noson wobrwyo ddiweddar.

Fe gafodd Arweinydd a Chynorthwy-ydd Cylch Meithrin Pontrhydfendigaid wobrau mewn seremoni gan y Mudiad Meithrin sy’n cydnabod gwaith clodwiw ar lawr gwlad.

Mae Gwen Davies yn arwain y clwb ers tair blynedd, a phan nad yw yn diddanu’r plantos mae hi yn gwirioni ar ralïo ceir a threfnu’r carnifal lleol.