Nôl yn y 1980au pric bach pren oedd yn cael ei ddefnyddio i fforchio sglodion lawr y lôn goch.
Yna fe ddaeth yn ffasiynol i fwyta cwdyn o jips gyda fforch blasdig…
Ond mae’r byd wedi newid yndo, a’r plasdig nad sy’n pydru yn byw am byth, gan dagu’r moroedd a difetha dyfroedd y morloi a’r pysgod a’r crwbanod.
Felly chwarae teg i Lywodraeth Cymru am gymryd camau’r wythnos hon i “leihau llif gwastraff plastig niweidiol”.