Portread o Jess Kavanagh

Mae athrawes fu’n chwarae rygbi i Gymru yn Rwsia a Dubai, yn awyddus i sicrhau cyfleoedd a chydraddoldeb i bobol ifanc.

Enillodd Jess Kavanagh, sy’n byw yn Hen Golwyn yn Sir Conwy, 19 o gapiau dros ei gwlad, a bellach mae hi’n rhedeg academi rygbi i blant yn y gogledd.