Dim ond llond llaw o glybiau dawns forys sydd ar ôl yng Nghymru ond mae’r Blaenau Sovereigns yn mynd o nerth i nerth…
Mae dawns werin o Loegr, sy’n dyddio’n ôl i’r 15fed ganrif, wedi bod yn boblogaidd ym Mlaenau Ffestiniog ers y 1960au.
Cafodd dawns forys (morris dancing), sy’n rhoi mwy o bwyslais ar stepio, rythm a chydsymud, ei hadfywio yng nghanol y ganrif ddiwethaf, yn enwedig yn Lloegr.