Chuck D o Public Enemy ac Akil the MC o Jurassic 5 – dau lais byddech chi ddim yn disgwyl eu clywed ar albwm rap sy’n ceisio rhoi llwyfan rhyngwladol i’r iaith Gymraeg.

Ond dyna glywch chi ar albwm newydd un o hoelion wyth sîn rap Cymru…

Yn arwain y sîn rapio a bît bocsio Cymraeg ers degawdau bellach, mae Mr Phormula wedi dychwelyd gyda’r albwm A.W.D.L. (Artist With Dual Language).