Bu i’r Dirprwy Weinidog Newid Hinsawdd bleidleisio yn erbyn ei blaid deirgwaith, a nawr mae’n wynebu beirniadaeth am ei sylwadau am olew… 

Mae Lee Waters mewn dŵr poeth wedi iddo bleidleisio yn erbyn ei blaid ei hun deirgwaith mewn fôts yn y Senedd.

Ar 16 Mai wnaeth Dirprwy Weinidog Newid Hinsawdd Llywodraeth Lafur Cymru bwyso’r botwm a phleidleisio o blaid diwygiad i’r Bil Amaethyddiaeth – er bod Llafur yn pleidleisio yn ei erbyn.